P-04-438 : Hygyrchedd wrth Siopa
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
· Ymchwilio i’r ddarpariaeth o leoedd parcio oddi ar y ffordd i bobl anabl yn unol âchyfarwyddyd yr Adran Drafnidiaeth.
· Creu deddf sy’n nodi isafswm y lleoedd parcio i bobl anabl, a dimensiynau’r lleoedd hynny. Ymchwilio i’r maint lleiaf a bennir ar gyfer lleoedd parcio i bobl anabl ar hyn o bryd, i ganfod a ystyrir faniau a gaiff eu defnyddio i gludo defnyddwyr cadeiriau olwyn.
· Pennu dirwy safonol, uwch am gamddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl, a fyddai’n gymwys ym mhob maes parcio, a sicrhau y caiff ei gorfodi y tro cyntaf y bydd rhywun yn troseddu.
· Gorfodi cwmnïau tacsis i gludo’r clampiau a riliau dirwyn cywir I’w defnyddio gyda chadeiriau olwyn â modur.
· Ymchwilio a yw’r tai bach a ddarperir i bobl anabl ar hyn o bryd yn ddigon mawr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â modur a’u gofalwyr.
· Creu cynllun sy’n trefnu bod siopau sydd ârampiau sefydlog neu symudol yn arddangos bathodyn yn eu ffenestri.
Prif ddeisebydd: Mencap ac Ysgol Erw’r Delyn
Nifer y llofnodion: 55